Bwletin ar gyfer Rhagfyr 2023

Diweddarwyd Diwethaf: 03 Medi 2024

Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar cyn y Nadolig

Mae Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar ar gyfer cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos yn diweddu dydd Gwener 22 Rhagfyr. Gallwch gyflwyno eich cadarnhad o ddydd Llun 18 Rhagfyr fel eu bod yn eu lle cyn i'r cyfnod gwyliau ddechrau.

Rhaid i chi ddychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob myfyriwr p'un a yw'n bresennol ai peidio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth porth cyn i chi adael ar gyfer gwyliau'r Nadolig.

Cyflwynwch hefyd gadarnhad o bresenoldeb ar gyfer unrhyw wythnosau cynharach, heb eu cadarnhau a allai fod yn weddill. Gallwch wneud hyn trwy wirio a oes blwch wythnosau heb ei gadarnhau yn rhestr waith presenoldeb eich porth.

 

Dyddiadau taliadau LCA/GDLlC dros y Nadolig

Cyn belled â'ch bod yn cyflwyno cadarnhad presenoldeb mewn pryd, bydd taliadau LCA ar gyfer yr wythnosau sy'n diweddu 15 a 22 Rhagfyr yn cael eu talu ddydd Mawrth 2 Ionawr yn hytrach na 1 Ionawr. Byddwn hefyd yn gwneud unrhyw daliadau GDLlC tymor 1 sydd i'w talu ar 25 Rhagfyr ddydd Mercher 27 Rhagfyr yn lle hynny.

Rhowch wybod i'ch myfyrwyr am hyn.

 

Mae ceisiadau GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 nawr ar gael ar-lein!

Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein am GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 nawr ar gael!

Mae’r gwasanaeth ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i fyfyrwyr ymgeisio yma.


I gael cymorth gyda'u cais ar-lein, gall myfyrwyr gysylltu â ni ar ein llinell gymorth rhif 0300 200 4050, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 6pm. Os byddai’n well gan eich myfyrwyr ffurflen gais bapur, hyd yn oed os ydynt wedi dechrau cais ar-lein, gallant ofyn i chi am hyn o hyd neu lawrlwytho’r ffurflen gais a’r canllawiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

I helpu hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein, rydym hefyd wedi creu posteri y gallwch eu harddangos mewn mannau lle gall myfyrwyr eu gweld. Mae’r rhain ar gael i chi eu lawrlwytho ac argraffu o’r wefan Gwasanaethau Canolfan Ddysgu.

 

Desg gymorth LCA/GDLlC AB – oriau’r Nadolig

Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system.

Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.

Dros gyfnod y Nadolig eu horiau agor yw:

  • Dydd Gwener 22 Rhagfyr i ddydd Mawrth 26 Rhagfyr – ar gau
  • Dydd Mercher 27 Rhagfyr i ddydd Iau 28 Rhagfyr – ar agor 9am tan 5pm

  • Dydd Gwener 29 Rhagfyr i ddydd Mawrth 2 Ionawr – ar gau

Bydd y ddesg gymorth yn dychwelyd i fusnes fel arfer ar 3 Ionawr 2024.

Fi yw eich prif gynghorydd a'ch prif bwynt cyswllt ar gyfer rheoli gwasanaethau, datblygiadau yn y dyfodol ac arfer gorau a byddaf yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y pynciau a amlygir yn y bwletin hwn.

Byddwn yn dychwelyd i fusnes fel arfer ar 3 Ionawr 2024.

Ac yn olaf, ar fy rhan i a holl y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda!