Bwletin ar gyfer Mawrth 2026
Diweddarwyd Diwethaf: 31 Maw 2026
Fforymau Adolygu Gwasanaethau
Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer ein fforymau adolygu gwasanaethau LCA/GDLlC blwyddyn academaidd 2025/26. Rydym yn cynnal sesiynau wyneb yn wyneb a rhithwir.
Fforymau wyneb yn wyneb
- 22 Ebrill: Caerdydd – Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
- 23 Ebrill: Cyffordd Llandudno – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ
Bydd cofrestru ar gyfer fforymau wyneb yn wyneb yn rhedeg o 9am i 9:30am. Bydd cinio i drafod gwaith o 12pm i 12:30pm. Byddwn yn darparu te a choffi a chinio ysgafn.
Sesiynau rhithwir
Bydd fforymau rhithwir yn digwydd ar Microsoft Teams o 14 i 16 Ebrill. Bydd y fforymau yn rhedeg o 9:15am i 11:30am. Bydd cofrestru ar gyfer y fforymau rhithwir yn rhedeg o 9:15am i 9:30am.
Gallwch archebu lle mewn fforwm rwy anfon e-bost at emainfo@slc.co.uk.
Newidiadau i drothwy incwm aelwydydd LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu trothwyon incwm aelwydydd ar gyfer LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.
- £24,570 os mai’r myfyriwr yw’r unig blentyn yn y cartref (£23,400 yn flaenorol)
£27,273 os oes o leiaf un plentyn dibynnol arall yn gymwys i gael Budd-dal Plant yn y cartref (£25,974 yn flaenorol)
Porth LC yn agor yn gynnar ar gyfer gwyliau'r Gwanwyn
Rydym yn agor y Porth LC yn gynnar ar gyfer ceisiadau ar gyfer yr wythnos yn diweddu 27 Mawrth. Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldeb o ddydd Iau 26 Mawrth. Bydd hyn yn golygu bod y dyraniadau yn eu lle cyn i chi gau ar gyfer y gwyliau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r wythnosau canlynol fel gwyliau:
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau am wyliau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau, sy'n golygu bod y porth yn gyfredol. Gwiriwch hefyd yr adran wythnosau heb eu cadarnhau ar y porth ar gyfer unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.
Taliadau tymor 2 GDLlC
Gwiriwch eich bod wedi marcio pob cadarnhad presenoldeb tymor 2 cyn gorffen am y gwyliau. Mae hyn er mwyn i ni allu gwneud unrhyw daliadau sy'n ddyledus i fyfyrwyr cyn diwedd y tymor.
Lansio’r gwasanaeth LCA/GDLlC a dosbarthu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Bydd y porth LC a gwasanaeth ymgeisio ar-lein LCA/GDLlC ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 o ddydd Gwener 27 Ebrill.
Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Mae hyn yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym. Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27, rydym wedi darparu posteri ‘i ddod yn fuan’ i chi eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.
Byddwn yn dechrau anfon dyraniadau o becynnau cais LCA a GDLlC AB ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2026/27 ar yr wythnos yn cychwyn ar ddydd Llun 23 Mawrth.
Y meini prawf ar gyfer ceisiadau papur yw:
- ni fydd unrhyw ysgolion neu golegau lle gwnaeth llai na 10 o fyfyrwyr gais ar bapur ym mlwyddyn academaidd 2025/26 yn derbyn unrhyw ffurflenni papur. Gallwch eu hargraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
- bydd ysgolion mwy yn derbyn cyflenwad bach o ffurflenni
- bydd colegau mwy yn derbyn cyflenwad yn seiliedig ar adborth a dadansoddiad a gynhaliwyd gennym
bydd ysgolion arbennig yn derbyn yr un nifer o ffurflenni cais ag ym mlwyddyn academaidd 2025/26
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.
Wrth i ni nesáu at ein cyfnod prosesu brig, mae'n bwysig eich bod yn defnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.