Bwletin ar gyfer Ionawr 2025

Diweddarwyd Diwethaf: 07 Chwef 2025

Fforymau Adolygu Gwasanaeth 2024/25

Rydym yn cynllunio ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau 2024/25. Mae nifer dda wedi mynychu’r fforymau erioed, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o’r digwyddiadau. Rydym yn bwriadu cynnal fforymau wyneb yn wyneb a rhithwir. Byddwn yn anfon e-bost i ‘nodi’r dyddiad’ yn fuan, felly cadwch lygad amdano.

Lansio’r gwasanaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 – dosbarthu ffurflenni cais a phosteri ‘i ddod yn fuan’

Ar hyn o bryd rydym yn paratoi ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd (BA) 2025/26. Bydd y gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer BA 2025/26 ar gael o ganol y gwanwyn. Bydd hwn yn cael ei lansio ochr yn ochr â cheisiadau papur.

Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Mae hyn yn ein helpu i brosesu ffurflenni yn gyflym. Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, byddwn yn darparu posteri ‘i ddod yn fuan’ i chi eu harddangos mewn ardaloedd lle bydd myfyrwyr yn eu gweld.

Bydd posteri 'i ddod yn fuan' ar gael yn ystod mis Chwefror. Byddwch yn gallu eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.

Byddwn yn dosbarthu ceisiadau papur fel a ganlyn:

  • bydd pob ysgol a choleg (ac eithrio anghenion addysgol arbennig) yn derbyn 50% o’r swm a anfonwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
  • bydd ysgolion neu golegau anghenion addysgol arbennig yn cael yr un nifer o ffurflenni ag o'r blaen
  • os anfonwyd llai nag 20 o ffurflenni atoch, ni fyddwn yn anfon dosbarthiad atoch mwyach oherwydd gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu

Absenoldeb awdurdodedig - apwyntiadau llety ac ymweliadau

Rydym wedi ychwanegu rheswm derbyniol newydd dros awdurdodi absenoldebau at ein canllawiau LCA.

Mae’n dderbyniol cofnodi absenoldeb os na all eich myfyrwyr gyrraedd yr apwyntiadau canlynol y tu allan i oriau ysgol neu goleg ar gais awdurdod lleol neu gyngor lleol:

  • mynychu apwyntiadau i weld llety neu dai
  • llofnodi cytundebau a chontractau llety neu dai

I gael arweiniad llawn ar absenoldebau awdurdodedig, ewch i wefan Gwasanaethau LC:

Gall myfyrwyr wneud cais o hyd ar gyfer BA 2024/25

Nid yw’n rhy hwyr i fyfyrwyr wneud cais am LCA neu GDLlC AB ar gyfer BA 2024/25.

Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein neu ar gais papur. Mae'r ddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Anogwch unrhyw fyfyrwyr y teimlwch eu bod yn gymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cadarnhad o bresenoldeb

Mae hi cyn bwysiced ag erioed bod myfyrwyr yn cael eu taliadau LCA a GDLlC AB ar amser. I sicrhau bod hyn yn digwydd, cadarnhewch bresenoldeb eich myfyrwyr LCA ar Borth y Ganolfan Ddysgu bob wythnos.

Dylech gyflwyno eich cadarnhad cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol.

Ar gyfer myfyrwyr GDLlC AB, cadarnhewch eu presenoldeb ar gyfer tymor 2 pan fyddant wedi dychwelyd i astudio a'ch bod yn hapus gyda phresenoldeb tymor 1.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae canllawiau ychwanegol hefyd ar gael ar y wefan Gwasanaethau LC yn:

Cadw tŷ a diogelwch Porth y Ganolfan Ddysgu

Dylech ddod â chyfrifon unrhyw ddefnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu nad oes angen mynediad i'r system arnynt mwyach i ben.

Er enghraifft, efallai eu bod wedi gadael eu swydd neu wedi newid rôl. Mae hyn yn helpu cynnal diogelwch y porth a data y dysgwyr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ganllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu ar sut i wneud hyn.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol mai dim ond cyfeiriadau e-bost ar y dudalen 'proffiliau' o fewn y porthol fydd yn derbyn ein bwletinau.

Adolygwch a diweddarwch eich rhestr o gysylltiadau i wneud yn siŵr bod yr holl staff angenrheidiol yno.

Llywodraeth Cymru i gynyddu trothwyon incwm aelwydydd LCA

Bydd Llywodraeth Cymru yn codi’r trothwyon incwm aelwydydd LCA. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o fyfyrwyr nawr yn gallu gwneud cais.

Gan ddechrau o'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi, bydd y trothwy ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yn cynyddu o £20,817 i £23,400. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr mewn teuluoedd sydd ag incwm cartref o £23,400 neu lai yn gymwys i gael LCA.

Bydd y trothwy ar gyfer aelwydydd â dau ddibynnydd neu fwy hefyd yn cynyddu o £23,077 i £25,974. Felly, bydd myfyrwyr mewn teuluoedd sydd â dau ddibynnydd neu fwy ac incwm cartref o £25,974 neu lai yn gymwys i gael LCA.

Gall myfyrwyr a oedd yn anghymwys yn flaenorol oherwydd bod incwm eu cartref yn rhy uchel fod yn gymwys o fis Medi ymlaen. Anogwch nhw i wneud cais os ydyn nhw'n dal i astudio erbyn hynny.

Desg gymorth LCA a GDLlC AB

Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system. Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.