Bwletin ar gyfer Chwefror 2024
Diweddarwyd Diwethaf: 03 Medi 2024
Mae bron yn amser i gofrestru – mae’r fforymau blynyddol ar gyfer LCA a GDLlC AB yn dychwelyd ar gyfer 2024!
Bydd cofrestru ar gael yn fuan iawn ar gyfer ein fforymau adolygu gwasanaeth.
Mae hwn yn gyfle i Ganolfannau Dysgu gymryd rhan mewn grwpiau bach i drafod gofynion gweinyddol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (LCA/GDLlC). Eleni, byddwn yn cynnal amserlen gymysg o ddigwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb i gyd yn sesiynau boreol rhwng 9.30am a 12pm. Byddwn yn darparu te a choffi a chinio ysgafn.
15 Ebrill - Caerdydd - Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
16 Ebrill - Abertawe - Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
17 Ebrill - Cyffordd Llandudno - Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
18 Ebrill - Wrecsam - Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
Bydd digwyddiadau rhithwir yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams:
23 Ebrill - sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
24 Ebrill - sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
25 Ebrill - sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
26 Ebrill - sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
Deunyddiau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Eleni, byddwn yn dechrau dosbarthu’r Llyfr Bach LCA ddiwedd mis Chwefror felly dylai'r rhain fod gyda chi erbyn dechrau mis Mawrth. Rydym yn bwriadu cadw cyn lleied â phosibl o gopïau papur, felly dim ond i golegau mwy y byddwn yn dosbarthu'r rhain i helpu gyda diwrnodau agored a digwyddiadau eraill.
Mae gan bob ysgol a choleg eisoes fynediad at ddeunyddiau 2024/25 ar PDF. Lawrlwythwch y rhain a'u rhannu gyda myfyrwyr, rhieni a gwarcheidwaid trwy e-bost neu unrhyw ddull arall sydd orau gennych:
Deunyddiau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Deunyddiau GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Negeseuon Atgoffa
Gyda'r cynnydd parhaus mewn costau byw, mae mor bwysig ag erioed bod myfyrwyr yn cael unrhyw arian sy'n ddyledus iddynt ar amser bob pythefnos.
Gwiriwch fod eich cyflwyniadau ar Borth y Ganolfan Ddysgu 100% yn gyfredol.
Wythnosau heb eu cadarnhau
Gwiriwch am unrhyw bresenoldebau LCA heb eu cadarnhau. I wneud hyn, ewch i Rhestrau Gwaith a dewiswch Rhestr Waith Presenoldeb. Os bydd y dangosydd Wythnosau heb eu cadarnhau yn ymddangos, dewiswch ef i weld rhagor o fanylion.
Presenoldeb
Rhaid i chi gyflwyno cadarnhad wythnosol ar gyfer pob myfyriwr LCA, p'un a yw'n bresennol ai peidio. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cadarnhad ar gyfer pob wythnos yw 5pm y dydd Mercher canlynol.
Gwyliau
Gwiriwch am wyliau’r Pasg sydd i ddod eich bod wedi nodi’r wythnosau canlynol fel gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu:
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.
Tab Cynnal Proffil Porth y Ganolfan Ddysgu
Rydym yn defnyddio'r manylion cyswllt ar dab Cynnal Proffil Porth y Ganolfan Ddysgu i anfon gwybodaeth bwysig am wasanaethau a diweddariadau rheolaidd atoch. Gwiriwch fod eich gwybodaeth yn gyfredol yno fel nad ydych yn colli unrhyw e-byst pwysig oddi wrthym.