Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Cymhwysedd
Rheolau cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer GDLlC AB rhaid i fyfyriwr:
- fod yn preswylio (yn byw fel arfer) yng Nghymru
- fod yn 19 oed neu hŷn ar neu cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd (1 Medi)
- fodloni'r gofynion cenedligrwydd a phreswylio
- fyw mewn aelwyd sydd ag incwm blynyddol o £18,370 neu lai
- wedi gwneud cais o fewn 9 mis o ddechrau eu cwrs, ac wedi ei gwblhau o fewn 12 mis i ddechrau
Ni ddylai fod yn derbyn cyllid ar gyfer y cwrs neu’r rhaglen astudio o ryw ffynhonnell arall, er enghraifft:
- Rhaglen Waith
- Lwfans Hyfforddi
- Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA)
- Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW)
Gall rhai myfyrwyr o Gymru fod yn mynychu canolfannau dysgu yn Lloegr. Gall canolfannau dysgu Saesneg gynnig cyllid Benthyciad Dysgwr Uwch i dalu ffioedd y cwrs. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, efallai y bydd Benthyciad Dysgwr Uwch a chyllid GDLlC AB ar gael i’r myfyriwr.
Byddwn yn asesu incwm y cartref yn wahanol ar gyfer myfyrwyr sy'n gadael gofal. Er mwyn i fyfyriwr cymwys gymhwyso fel rhywun sy’n gadael gofal, rhaid iddo fod o dan 25 oed ar ddechrau ei gwrs.
Gellir ystyried myfyrwyr yn ymadawyr gofal os ar unrhyw adeg o 14 oed i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs:
- nad ydynt wedi bod dan ofal cyfreithiol eu rheini am gyfanswm o 13 wythnos neu fwy
- roeddynt dan orchymyn gwarchodaeth arbennig, neu yng nghystodaeth neu ofal cyfreithiol awdurdod lleol
- maent wedi cael llety gan yr awdurdod lleol am 13 wythnos neu fwy
Gallai ymgeiswyr a ddychwelwyd i ofal cyfreithiol eu rhieni rhwng 14 ac 16 oed gael eu hystyried yn rhai sy'n gadael gofal o hyd.