Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Cymhwysedd
Cynnydd
Prif egwyddor cynllun GDLlC AB yw cefnogi dilyniant myfyrwyr cymwys o flwyddyn astudio flaenorol.
I ddangos dilyniant o flwyddyn flaenorol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cofrestru ar flwyddyn ganlynol eu cwrs. Fel arall, efallai y byddant wedi cofrestru ar gwrs ar lefel astudio uwch o'r adeg yr oeddent yn gymwys ddiwethaf ar gyfer GDLlC AB.
Ni fydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer GDLlC AB os ydynt wedi derbyn cymorth GDLlC AB yn flaenorol i fynychu cwrs ar yr un lefel neu lefel uwch. Rhaid iddynt fel arfer ddangos cynnydd i lefel uwch o ddysgu er mwyn parhau i fod yn gymwys.
Mewn achosion eithriadol, gellir ystyried cymhwysedd GDLlC AB ar gyfer ail gyfnod astudio. Mae hyn fel arfer pan na allai'r myfyriwr basio'r flwyddyn academaidd oherwydd amgylchiadau esgusodol. Dylech ofyn i'n Desg Gymorth Partneriaid adolygu'r achosion hyn.
Ym mhob achos, rhaid i'r myfyriwr roi tystiolaeth ddogfennol o bob ffynhonnell briodol pan fyddwch yn gofyn am hyn. Efallai bod rhai myfyrwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol ond efallai nad ydynt wedi symud ymlaen mewn termau academaidd yn unig, er enghraifft o lefel 1 i lefel 2. Gallai hyn gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau.
Eithriad arall yw os yw myfyriwr yn astudio ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol, ond mewn maes astudio cysylltiedig. Gall hyn ategu ei gwrs gwreiddiol a dangos cynnydd yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, efallai y bydd yn dilyn Lefel 3 Harddwch gyda Thrin Gwallt Lefel 3.
Mewn amgylchiadau o'r fath, dylech ddefnyddio'ch disgresiwn ac ystyried pob achos ar ei ben ei hun i benderfynu a oes dilyniant.