Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Crynodeb
Crynodeb o'ch cyfrifoldebau
Eich cyfrifoldebau pwysicaf yw cadarnhau manylion cwrs a phresenoldeb y myfyriwr. Bydd hyn yn gadael i ni ryddhau taliadau GDLlC AB i'r myfyrwyr.
Mae eich cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys:
- dosbarthu ffurflenni cais i'ch myfyrwyr pan fo angen
- bod yn bwynt cyswllt i fyfyrwyr ar ôl iddynt dderbyn eu Llythyrau Dyfarnu Dros Dro
- cynnig cymorth a chyngor ar ddilyniant, cyrsiau a rhaglenni astudio
- rhoi cyngor am y rheolau presenoldeb yn eich ysgol neu goleg
- cynhyrchu a chadarnhau Ffurflenni Cytundeb Dysgu GDLlC AB ar gyfer pob myfyriwr cymwys
- mewnbynnu gwybodaeth myfyrwyr ar y Porth Canolfannau Dysgu, gan gynnwys cadarnhad eu bod yn mynychu cwrs cymwys
- delio ag unrhyw apeliadau am fanylion cwrs a chadarnhau presenoldeb
- cadw llwybrau archwilio tystiolaeth a dogfennau ategol am 7 mlynedd
- dweud wrthym ar unwaith os byddwch yn dod yn ymwybodol y gallai myfyriwr fod yn cyflawni twyll wrth wneud cais am GDLlC AB – gall eich gweinyddwyr GDLlC AB ddod o hyd i ganllawiau ynghylch twyll ar Borth y Ganolfan Ddysgu