Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r Cynllun GDLlC AB
Canllaw cyflym presenoldeb
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau a llofnodi eu Cytundebau Dysgu GDLlC AB cyn y gallwch gadarnhau eu presenoldeb.
Dylech gymhwyso polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol eich Canolfan Ddysgu i unrhyw fyfyrwyr GDLlC AB nad ydynt wedi bod yn bresennol. Defnyddiwch y polisi hwn i benderfynu a oedd yr absenoldeb wedi’i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.
Os oes gan fyfyriwr absenoldeb awdurdodedig, dylech nodi ei fod yn bresennol ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Gallai absenoldeb awdurdodedig fod yn un o’r canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddo:
- ymweliad â phrifysgol neu goleg
- mabolgampau ysgol neu gêm
- lleoliad gwaith sy'n rhan annatod o'r cwrs
- absenoldeb astudio
- argyfwng teuluol
- apwyntiad meddygol
- cau ysgol
Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb, byddwch yn ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr sydd wedi dweud eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Dylech ystyried yr amgylchiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais.
Pan edrychwch ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu, bydd gan y myfyrwyr hyn dic yn y golofn Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol).
Sut i gadarnhau presenoldeb
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i'r adran Worklists (Rhestrau Gwaith).
- Dewiswch Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).
- Dewiswch y tymor rydych am gadarnhau presenoldeb ar ei gyfer.
- Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’r rhestr o fyfyrwyr.
- I gadarnhau presenoldeb yn unigol, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer pob myfyriwr.
- Marciwch yr holl fyfyrwyr fel rhai sy'n dangos Progressing (Cynnydd) neu Not Progressing (Dim Cynnydd) ar eu cwrs.
- Dewiswch Save(Cadw).
Yn nhymor 1, rhaid i chi gadarnhau presenoldeb ar ôl i'r myfyriwr fod yn bresennol am 2 wythnos. Rhaid i chi hefyd gadarnhau bod y myfyriwr yn parhau i fod wedi'i gofrestru ac yn parhau i fynychu bob tymor.
Mae'r rheol pythefnos yn berthnasol ar gyfer tymor 1 yn unig. Nid oes amserlen benodol ar gyfer y 2 dymor canlynol, ond rydym yn disgwyl i chi gadarnhau presenoldeb cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn sicrhau bod eich myfyrwyr yn derbyn eu cyllid heb oedi. Ystyriwch y gall myfyrwyr ddibynnu ar eu taliadau GDLlC AB ar gyfer teithio neu gostau eraill sy'n gysylltiedig â’u hastudiaethau.
Newid statws presenoldeb
Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'ddim yn bresennol' i 'yn bresennol', bydd y myfyriwr yn derbyn taliad wedi’i ôl-ddyddio.
Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o ‘yn bresennol’ i ‘ddim yn bresennol’ neu ‘ar wyliau’, bydd y myfyriwr mewn gordaliad. Gall hyn achosi straen i fyfyriwr. Mae'n bwysig iawn felly bod gennych y dystiolaeth, y gofrestr neu'r cadarnhad absenoldeb awdurdodedig cyn i chi nodi bod myfyriwr yn bresennol.