Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023

Canllawiau cyflym


Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r Cynllun GDLlC AB

Canllaw cyflym diweddaru Cytundebau Dysgu GDLlC AB

Gallwch lawrlwytho copi o'r Cytundeb Dysgu GDLlC AB o Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae hwn ar ffurf PDF, felly gallwch ei gwblhau’n llawn neu ei gwblhau'n rhannol, ei gadw dros dro neu ei argraffu gyda’r wybodaeth gyffredinol yn gynwysedig. Gobeithiwn fod hyn yn helpu arbed amser i chi pan fyddwch chi'n mynd trwy'r broses gyda'ch myfyrwyr. Mae'r ffurflen hefyd yn gallu cael ei llenwi yn Gymraeg.

Ni ddylech newid geiriad na fformat y Cytundeb Dysgu GDLlC AB i weddu i'ch Canolfan Ddysgu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.


Dewis iaith

Mae’r ffurflen gais GDLlC AB a’r ffurflen Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn gofyn i’r myfyriwr gadarnhau ym mha iaith yr hoffai i ni gysylltu â nhw. Byddwn yn parhau i anfon pob llythyr a dogfen yn y Gymraeg a’r Saesneg at bob myfyriwr. Bydd y dewis iaith yn pennu iaith unrhyw negeseuon testun y byddwn yn eu hanfon atynt.

Unwaith y bydd y dewis hwn wedi'i nodi ar y Cytundeb Dysgu GDLlC AB, dylech hefyd ei nodi ar dab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.


Sut i ddiweddaru Cytundeb Dysgu GDLlC AB

Dilynwch y camau hyn i ddod o hyd i’r holl fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu GDLlC AB.

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).

  3. Dewiswch y flwyddyn berthnasol o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).

  4. Dewiswch Approved (Cymeradwywyd) o'r gwymplen Application Status (Statws Cais).

  5. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn creu rhestr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu GDLlC AB i ddechrau derbyn taliadau.

Mae’r golofn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) yn dangos sawl diwrnod sydd wedi bod ers i ni gymeradwyo cais y myfyriwr. Dylai’r myfyriwr lofnodi ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB o fewn 10 diwrnod gwaith o’i gymeradwyo neu ddyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd rydym wedi dweud wrthych.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau Cytundeb Dysgu GDLlC AB gyda’r myfyriwr, rhaid i chi ddiweddaru ei gofnod ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Ewch i Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) a rhedeg chwiliad i ddod o hyd i gofnod y myfyriwr.

  3. Dewiswch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) i weld proffil y myfyriwr.

  4. Rhowch Agreement Signed Date (Dyddiad Llofnod y Cytundeb), Course Start Date (Dyddiad Dechrau’r Cwrs), Course End Date (Dyddiad Gorffen y Cwrs), Course Duration (Hyd y Cwrs), Year of Study (Blwyddyn Astudio), Subject (Pwnc), Qualification (Cymhwyster), Study Profile (Proffil Astudio) ac Contact Hours (Oriau Cyswllt).

  5. Dewiswch y botymau radio Yes (Ydi) neu No (Nac ydi) ar gyfer Student Progressing (Cynnydd Myfyriwr), Course Designated (Cwrs Wedi ei Ddynodi), Training Allowance(Lwfans Hyfforddi), Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol) a Consent to Share (Caniatâd i Rhannu).

  6. Unwaith y byddwch wedi mewnbynnu'r wybodaeth uchod, dewiswch Submit (Cyflwyno). Bydd y system wedyn yn caniatáu ichi gadarnhau presenoldeb y myfyriwr.

Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.



Gallwch hefyd ychwanegu nodiadau at gyfrif y myfyriwr trwy ddewis y botwm Customer Notes (Nodiadau Cwsmer). Gallai hyn gynnwys unrhyw drafodaethau am eu presenoldeb cyffredinol. Gallwch hefyd gynnwys trafodaethau am unrhyw amgylchiadau esgusodol, ond rhaid i chi gael caniatâd y myfyriwr yn gyntaf.

Canllaw cyflym presenoldeb

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau a llofnodi eu Cytundebau Dysgu GDLlC AB cyn y gallwch gadarnhau eu presenoldeb.

Dylech gymhwyso polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol eich Canolfan Ddysgu i unrhyw fyfyrwyr GDLlC AB nad ydynt wedi bod yn bresennol. Defnyddiwch y polisi hwn i benderfynu a oedd yr absenoldeb wedi’i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.

Os oes gan fyfyriwr absenoldeb awdurdodedig, dylech nodi ei fod yn bresennol ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Gallai absenoldeb awdurdodedig fod yn un o’r canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddo:

  • ymweliad â phrifysgol neu goleg
  • mabolgampau ysgol neu gêm
  • lleoliad gwaith sy'n rhan annatod o'r cwrs
  • absenoldeb astudio
  • argyfwng teuluol
  • apwyntiad meddygol
  • cau ysgol

Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb, byddwch yn ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr sydd wedi dweud eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Dylech ystyried yr amgylchiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais.

Pan edrychwch ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu, bydd gan y myfyrwyr hyn dic yn y golofn Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol).


Sut i gadarnhau presenoldeb

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Ewch i'r adran Worklists (Rhestrau Gwaith).

  3. Dewiswch Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).

  4. Dewiswch y tymor rydych am gadarnhau presenoldeb ar ei gyfer.

  5. Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’r rhestr o fyfyrwyr.

  6. I gadarnhau presenoldeb yn unigol, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer pob myfyriwr.

  7. Marciwch yr holl fyfyrwyr fel rhai sy'n dangos Progressing (Cynnydd) neu Not Progressing (Dim Cynnydd) ar eu cwrs.

  8. Dewiswch Save(Cadw).

Yn nhymor 1, rhaid i chi gadarnhau presenoldeb ar ôl i'r myfyriwr fod yn bresennol am 2 wythnos. Rhaid i chi hefyd gadarnhau bod y myfyriwr yn parhau i fod wedi'i gofrestru ac yn parhau i fynychu bob tymor.

Mae'r rheol pythefnos yn berthnasol ar gyfer tymor 1 yn unig. Nid oes amserlen benodol ar gyfer y 2 dymor canlynol, ond rydym yn disgwyl i chi gadarnhau presenoldeb cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn sicrhau bod eich myfyrwyr yn derbyn eu cyllid heb oedi. Ystyriwch y gall myfyrwyr ddibynnu ar eu taliadau GDLlC AB ar gyfer teithio neu gostau eraill sy'n gysylltiedig â’u hastudiaethau.


Newid statws presenoldeb

Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'ddim yn bresennol' i 'yn bresennol', bydd y myfyriwr yn derbyn taliad wedi’i ôl-ddyddio.

Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o ‘yn bresennol’ i ‘ddim yn bresennol’ neu ‘ar wyliau’, bydd y myfyriwr mewn gordaliad. Gall hyn achosi straen i fyfyriwr. Mae'n bwysig iawn felly bod gennych y dystiolaeth, y gofrestr neu'r cadarnhad absenoldeb awdurdodedig cyn i chi nodi bod myfyriwr yn bresennol.

Canllaw cyflym dileu ac adfer ceisiadau

Dileu cais myfyriwr unigol

Os ydych yn gwybod nad yw myfyriwr yn dychwelyd i'ch Canolfan Ddysgu, dylech ei dynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Yn gyntaf, gwiriwch nad yw'r myfyriwr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi dynnu’r cytundeb yn ôl yn hytrach na dileu'r myfyriwr.

  1. Ewch i ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) Porth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Dewiswch y tab View Application Details (Gweld manylion cais).

  3. Cynhaliwch chwiliad i ddod o hyd i gofnod y myfyriwr perthnasol.

  4. Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am gael gwared ar y cais.

  5. Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn dileu'r myfyriwr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.

Dileu mwy nag un cais myfyriwr ar unwaith

Ar ddechrau blwyddyn academaidd, efallai y bydd gennych nifer o fyfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu. Unwaith y byddwch yn gwybod nad ydynt yn dychwelyd, dylech ddilyn y camau hyn i'w tynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Gwiriwch nad oes unrhyw un o'r myfyrwyr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi dynnu’r cytundeb yn ôl yn hytrach na dileu'r myfyriwr.

  1. Ewch i ardal Worklists (Rhestrau Gwaith) Porth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Dewiswch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).

  3. Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Application Status (Wedi'i Gymeradwyo).

  4. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr nad ydynt wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB eto.

  5. Ticiwch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer pob myfyriwr rydych chi am ei ddileu.



  6. Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor naidlen gryno sy'n rhestru'r holl fyfyrwyr rydych chi wedi dewis eu dileu.

  7. Gwiriwch fod y crynodeb yn gywir, yna dewiswch Confirm (Cadarnhau). Bydd hyn yn dileu'r myfyrwyr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.


 


Adfer cais myfyriwr

Weithiau efallai y bydd angen i chi adfer cais myfyriwr rydych chi wedi'i ddileu’n flaenorol. Dilynwch y camau hyn i'w wneud ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

  1. Ewch i ardal Worklists (Rhestrau Gwaith) Porth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Dewiswch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).

  3. Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).

  4. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr sydd wedi eu dileu.

  5. Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yr ydych am adfer ei gais. Bydd hyn yn mynd â chi at fanylion ei gais.

  6. Dewiswch y botwm Restore (Adfer). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am adfer y cais.

  7. Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich Rhestr Waith Ceisiadau er mwyn i chi allu diweddaru ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB.

Canllaw cyflym amgylchiadau esgusodol

Mae'r ffurflen Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn gofyn a yw myfyriwr yn profi 'amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar bresenoldeb'. Mae’r cwestiwn hwn yn helpu amlygu myfyrwyr sy’n agored i niwed fel y gallwch eu cefnogi os yw eu hamgylchiadau’n effeithio’n anochel ar eu presenoldeb.

Gall amgylchiadau esgusodol gynnwys cyfrifoldebau gofalu ac anabledd, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r rhain. Nid oes angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i brofi eu hamgylchiadau esgusodol, ond gallwch ofyn am dystiolaeth os bydd angen.

Os ydych yn cael unrhyw drafodaethau gyda’r myfyriwr am ei amgylchiadau esgusodol, gallwch ychwanegu’r wybodaeth hon i’r maes Notes (Nodiadau) ar y tab Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu. Cyn y gallwch ychwanegu nodyn, rhaid i chi gael caniatâd y myfyriwr i wneud hynny.


Marcio presenoldeb

Os yw’r myfyriwr wedi dweud ei fod yn profi amgylchiadau esgusodol, bydd y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol) yn cael ei ddewis ar ei gyfer ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.

Bydd hyn yn eich atgoffa i ystyried sefyllfa’r myfyriwr pan fyddwch yn marcio presenoldeb. Dylech adolygu amgylchiadau unigol i sicrhau nad yw'r myfyriwr yn cael ei farcio'n ddiangen fel un nad yw'n bresennol.

Fodd bynnag, nid yw myfyriwr yn dewis amgylchiadau esgusodol yn golygu y dylech bob amser eu marcio'n awtomatig fel presennol. Chi sy'n gyfrifol am gyflwyno cadarnhad presenoldeb cywir bob tro.

Pan fyddwch yn trafod amgylchiadau esgusodol y myfyriwr, mae’n arfer gorau i ddarganfod a oes unrhyw adnoddau eraill i’w cefnogi.

Gallai ychwanegu nodyn at gofnod y myfyriwr hefyd eich helpu i benderfynu sut i gyflwyno cadarnhad presenoldeb yn y dyfodol.

Canllaw cyflym ar gyfer cymhwyster cyrsiau a dilyniant

Er mwyn i fyfyriwr fod yn gymwys ar gyfer cyllid GDLlC AB, rhaid i'w gais fodloni'r meini prawf cymhwysedd a aseswyd gennym ni a chi.

Ymdrinnir â'r asesiad mewn 2 ran. Byddwn yn asesu'r meini prawf ariannol, cenedligrwydd a phreswylio. Byddwch yn asesu cymhwyster y cwrs.

Prif egwyddor cynllun GDLlC AB yw cefnogi dilyniant myfyrwyr cymwys o flwyddyn astudio flaenorol. I ddangos dilyniant o flwyddyn flaenorol, dylech wirio bod y myfyriwr wedi cofrestru ar flwyddyn ganlynol ei gwrs. Fel arall, efallai y byddant wedi cofrestru ar gwrs ar lefel astudio uwch o'r adeg yr oeddent yn gymwys ddiwethaf ar gyfer GDLlC AB.

Ni fydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer GDLlC AB os ydynt wedi derbyn cymorth GDLlC AB yn flaenorol i fynychu cwrs ar yr un lefel neu lefel uwch. Rhaid iddynt fel arfer ddangos cynnydd i lefel uwch o ddysgu er mwyn parhau i fod yn gymwys.

Mewn achosion eithriadol, gellir ystyried cymhwysedd GDLlC AB ar gyfer ail gyfnod astudio. Mae hyn fel arfer pan na allai'r myfyriwr basio'r flwyddyn academaidd oherwydd amgylchiadau esgusodol.

Eithriad arall yw os yw myfyriwr yn astudio ar yr un lefel â'r flwyddyn flaenorol, ond mewn maes astudio cysylltiedig. Gall hyn ategu ei gwrs gwreiddiol a dangos cynnydd yn ei gyfanrwydd. Er enghraifft, efallai y bydd yn dilyn Lefel 3 Harddwch gyda Thrin Gwallt Lefel 3.

Gallwch wirio Porth y Ganolfan Ddysgu i weld sut mae cais yn dod yn ei flaen trwy ein systemau. I wneud hyn, dewiswch Worklists (Rhestrau Gwaith), yna Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a Application Status (Statws Cais).

Unwaith y bydd statws y cais yn ddangos fel Approved (Cymeradwywyd), rhaid i chi ddiweddaru proffil y myfyriwr. I wneud hyn, dewiswch ei gyfenw yn y rhestr waith. Mae hyn yn gweithredu fel hyperddolen sy'n agor ei broffil.

Unwaith y byddwch ym mhroffil y myfyriwr, rhaid i chi gadarnhau:

  • a yw’r myfyriwr ar gwrs dynodedig
  • a yw'r myfyriwr yn symud ymlaen
  • a ddylai'r myfyriwr fod yn derbyn cyllid GDLlC AB

Rydym wedi ychwanegu nodyn i'ch helpu i benderfynu hyn. Dim ond cyrsiau addysg bellach sy'n ddilys ar gyfer cymorth GDLlC AB. I fod yn gymwys ar gyfer cyllid GDLlC AB, rhaid i’r myfyriwr fod yn astudio cwrs ar lefel 3 neu’n is. Nid yw cyrsiau addysg uwch (lefel 4 ac uwch) yn gymwys ar gyfer cyllid GDLlC AB.

Os yw myfyriwr ar gwrs uwch na lefel 3, rhaid i chi farcio'r cwrs fel un heb ei ddynodi. Bydd hyn yn gwrthod y cais.

Rydym hefyd wedi ychwanegu elfen at Borth y Ganolfan Ddysgu i helpu gyda chymwysterau. Pan fyddwch yn mynd i mewn i Gytundeb Dysgu GDLlC AB ar y porth, nid yw'r gwymplen Qualification (Cymhwyster) yn cynnwys 'arall' mwyach fel opsiwn. Yn lle hynny, mae'n rhaid i chi fapio'ch cyrsiau i'r fframwaith cymhwyster i gofrestru eich cyrsiau ar y lefel gywir.

Rydym hefyd wedi lleihau'r rhestr o opsiynau cymhwyster penodol. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond lefelau sydd â chyllid ynghlwm wrthynt y gallwch eu dewis.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i fapio cymwysterau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25

Bu newidiadau i rai categorïau cymhwyster preswylio o flwyddyn academaidd 2024/25.

Aelodau o deulu Gwladolion Wcráin

O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu deiliaid caniatâd Cynllun Wcráin yn gymwys i wneud cais am gymorth AB.

Aelodau teulu Dinasyddion Afghanistan

O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu’r rhai a gafodd ganiatâd o dan yr ARAP (Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid) neu ACRS (Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan) yn gymwys i wneud cais am gymorth AB heb unrhyw ofyniad iddynt fod wedi cael caniatâd oherwydd llinach.  

 

Parhad cymorth i fyfyrwyr pan fydd caniatâd wedi dod i ben:

  1.      Cynllun yr Wcráin yn dod i ben - Byddwn yn gwneud newidiadau i’n canllawiau i’w gwneud yn glir y gall pobl sydd â chaniatâd Cynllun yr Wcrain barhau i gael cymorth unwaith y daw’r caniatâd gwreiddiol i ben, os oes ganddynt statws mewnfudo cyfreithlon newydd yn y Deyrnas Unedig.  ​
  2.      Dinasyddiaeth Brydeinig/Wyddelig - Byddwn yn gwneud newidiadau i sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n caffael dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig yn ystod eu hastudiaethau, yn lle gwneud cais am ganiatâd pellach i aros, yn cael eu heffeithio gan y ddarpariaeth terfynu.​

 

Tynnu Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn ôl

Os bydd myfyriwr yn penderfynu tynnu'n ôl o'ch Canolfan Ddysgu yn barhaol, rhaid i chi ddiweddaru Porth y Ganolfan Ddysgu i ddangos hyn.

Dylech ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo i Ganolfan Ddysgu arall. Yn yr achos hwn, rhaid i'r myfyriwr hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru i gael y trosglwyddiad wedi'i brosesu ar ei gyfer.

Dylech hefyd ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd myfyriwr yn marw. Yn yr achos hwn, dylech bob amser gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid fel y gallwn atal unrhyw ohebiaeth bellach i'r myfyriwr.

Unwaith y bydd myfyriwr wedi'i dynnu'n ôl, gallwch barhau i weld ei fanylion ar Borth y Ganolfan Ddysgu os oes angen.

I fodloni'r Safonau Gwasanaeth, rhaid i chi gyflwyno 100% o'r myfyrwyr sydd wedi tynnu'n ôl o fewn 30 diwrnod gwaith.

Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Newidiadau i statws preswyliad sefydlog

Ym mlwyddyn academaidd (BA) 2024/25, i fod yn gymwys am gyllid fel person wedi setlo yn y DU, roedd angen i fyfyriwr fod â statws sefydlog ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf ei gwrs. Roedd hyn oni bai bod ganddynt statws sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).​

O flwyddyn academaidd 2025/26, gall myfyrwyr sydd â statws sefydlog am unrhyw reswm, nid yn unig o dan yr EUSS, ddod yn gymwys i gael cyllid yn ystod eu cwrs. Byddant yn gymwys ar gyfer cyllid o'r dyddiad y byddant yn derbyn statws sefydlog.​

Newidiadau i drais neu gam-drin domestig a phartner mewn profedigaeth

Yn flaenorol, dim ond yr unigolion canlynol oedd yn gymwys o dan y categori partneriaid gwarchodedig:

  • unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
  • unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel partner mewn profedigaeth

Rydym wedi diwygio’r polisi hwn i fod yn gymwys i’r unigolion canlynol:

  • unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
  • unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel partner mewn profedigaeth