Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Dileu ac adfer myfyrwyr
Gallwch ddefnyddio'r tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i:
- ddileu myfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
- adfer myfyrwyr sydd wedi dychwelyd
Dileu myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a rhedwch chwiliad i ganfod y myfyrwyr rydych chi am eu dileu.
- Yn y canlyniadau chwilio, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae angen i chi eu tynnu. Bydd hyn yn actifadu'r botwm Dileu.
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn ichi gadarnhau'r rhai i’w dileu.
- Dewiswch Confirm (Cadarnhau) i ddileu'r myfyrwyr a ddewiswyd neu Cancel (Canslo) i ddychwelyd i'r wedd flaenorol.
Unwaith y byddwch wedi dileu myfyriwr, ni fydd angen i chi gadarnhau ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB na’i bresenoldeb.
Ni ddylech ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb Dysgu GDLlC AB gweithredol.
Os yw myfyriwr wedi gwneud cais am GDLlC AB ond erioed wedi mynychu ei gwrs, gallwch ei dynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Dylech bob amser gadw rhestr waith eich ceisiadau'n gyfredol.
Adfer myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).
- Dewiswch Search (Chwilio) i weld rhestr o geisiadau sydd wedi'u dileu.
- Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol yn y canlyniadau chwilio i agor manylion ei gais.
- Dewiswch Restore (Adfer) a bydd y system yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich rhestr arferol o geisiadau.
Er enghraifft, gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os penderfynodd myfyriwr yn wreiddiol adael eich Canolfan Ddysgu i chwilio am waith ond yna penderfynodd ddychwelyd.
Unwaith y byddwch wedi adfer cais y myfyriwr, gallwch barhau i gadarnhau ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB a’i bresenoldeb yn ôl yr angen.
Os ceisiwch adael y sgrin hon heb gadw eich gwaith yn gyntaf, bydd y system yn dangos neges rhybudd i chi.