Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Rhestrau gwaith

Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)


Gallwch ddefnyddio'r Rhestr Waith Presenoldeb i gadarnhau presenoldeb myfyrwyr ac i ddiweddaru unrhyw bresenoldeb heb eu cadarnhau.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhestr waith hon i weld presenoldeb llawn a hanes cadarnhau dilyniant ar gyfer eich myfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi trosolwg gwell i chi o pryd y gallant ddisgwyl cael eu talu.

Rhaid i chi ddarparu manylion presenoldeb a dilyniant myfyrwyr ar ddechrau pob tymor. Bydd hyn yn dweud wrthym a ydynt yn gymwys i dderbyn taliadau GDLlC AB. Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb myfyriwr, bydd hyn yn rhyddhau taliad i'w gyfrif.

Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol) ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs) i gofnodi hyn pan fyddwch yn rhoi manylion eu cytundeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Bydd hyn yn eich atgoffa i ystyried sefyllfa’r myfyriwr pan fyddwch yn marcio presenoldeb.

Y meysydd hidlo chwilio unigryw ar gyfer y Rhestr Waith Presenoldeb yw:

  • tymor
  • statws presenoldeb
  • statws dilyniant


Cadarnhau presenoldeb

I gadarnhau presenoldeb, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer pob myfyriwr ar eich rhestr, yna dewiswch Save (Cadw).

Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni meini prawf presenoldeb eich Canolfan Ddysgu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig. Bydd dewis yr opsiwn hwn yn rhyddhau taliad GDLlC AB i gyfrif y myfyriwr. Mae gan fyfyrwyr hawl i GDLlC tra byddant yn dysgu a all gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.

Mae Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) yn golygu nad yw'r myfyriwr wedi bodloni'r meini prawf presenoldeb a osodwyd gan eich Canolfan Ddysgu. Os dewiswch yr opsiwn hwn, ni fydd unrhyw daliad GDLlC AB yn cael ei ryddhau i gyfrif y myfyriwr.


Cadarnhau dilyniant

I gadarnhau dilyniant, dewiswch y botwm radio Progressing (Symud Ymlaen) neu Not Progressing (Ddim yn Symud Ymlaen) ar gyfer pob myfyriwr ar eich rhestr, yna dewiswch Save (Cadw).

Mae Progressing (Symud Ymlaen) yn golygu bod y myfyriwr yn symud ymlaen ar ei gwrs.

Mae Not Progressing (Ddim yn Symud Ymlaen) yn golygu nad yw'r myfyriwr wedi symud ymlaen ar gyfer y tymor hwn, gan fod ei gwrs ar yr un lefel neu lefel is ag y bu'n astudio o'r blaen.