Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Hafan
Bar dewislen
Mae'r bar dewislen ar ochr chwith ffenestr Porth y Ganolfan Ddysgu. Bydd y dolenni yma yn mynd â chi i holl feysydd y porth:
- Mae Home (Hafan) yn mynd â chi i dudalen hafan y porth
- Mae Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) yn gadael i chi chwilio am fyfyrwyr unigol
- Mae Worklists (Rhestrau Gwaith) yn gadael i chi chwilio am eich holl fyfyrwyr a dangos trosolwg o'r gweithredoedd gweinyddol sydd heb eu cyflawni ar eu cyfer
- Mae Maintenance (Cynnal a Chadw) yn gadael i chi ddiweddaru grwpiau, gwyliau, defnyddwyr neu broffiliau
- Mae User Profile (Proffil Defnyddiwr) yn gadael i chi weld eich proffil defnyddiwr, gan gynnwys eich enw defnyddiwr, rolau mynediad, enw'r Ganolfan Ddysgu a llawer mwy
- Mae Settings (Gosodiadau) yn gadael i chi newid sut rydych chi'n edrych ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- Mae Logout (Allgofnodi) yn eich allgofnodi o'r porth
Mae gwybodaeth fanylach am yr opsiynau bar dewislen hyn ym mhenodau canlynol y canllaw hwn.
Os ydych chi am leihau'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden yn ei gornel chwith uchaf. I ehangu'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden eto.