Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Tynnu Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn ôl
Os bydd myfyriwr yn penderfynu tynnu'n ôl o'ch Canolfan Ddysgu yn barhaol, rhaid i chi ddiweddaru Porth y Ganolfan Ddysgu i ddangos hyn.
Dylech ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo i Ganolfan Ddysgu arall. Yn yr achos hwn, rhaid i'r myfyriwr hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru i gael y trosglwyddiad wedi'i brosesu ar ei gyfer.
Dylech hefyd ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd myfyriwr yn marw. Yn yr achos hwn, dylech bob amser gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid fel y gallwn atal unrhyw ohebiaeth bellach i'r myfyriwr.
- Cynhaliwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).
- Gwiriwch a yw cyfrif y myfyriwr wedi'i atal. Os na, dewiswch Suspend (Atal), yna dewiswch Save (Cadw).
- Dewiswch Withdraw (Tynnu’n ôl) a nodwch y dyddiad dod i rym. Byddwn yn defnyddio'r dyddiad hwn i gyfrifo union swm y cymorth GDLlC AB y mae gan y myfyriwr hawl iddo.
- Rhowch ragor o wybodaeth yn y maes Notes (Nodiadau) os oes angen.
- Dewiswch Save (Cadw).
Unwaith y bydd myfyriwr wedi'i dynnu'n ôl, gallwch barhau i weld ei fanylion ar Borth y Ganolfan Ddysgu os oes angen.