Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Tab View Application Details (Gweld Manylion Cais)
Mae'r tab View Application Details (Gweld Manylion Cais) yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am GDLlC AB.
- I ddod o hyd i fyfyriwr, dewiswch y flwyddyn berthnasol yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Nesaf, nodwch rif cyfeirnod cwsmer y myfyriwr neu ei enw cyntaf ac olaf a dyddiad geni.
- Dewiswch Search (Chwilio) a bydd y system yn dod รข chofnod y myfyriwr perthnasol i fyny.
Bydd y tab hwn yn dangos statws cais y myfyriwr i chi, gan gynnwys a yw'n fyfyriwr treigl awtomatig. Mae'r dangosydd Auto rollover (Treigl awtomatig) yn weithredol pan fydd myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr yr ail neu'r drydedd flwyddyn.
Os oes angen, gallwch ychwanegu nodiadau at gyfrif myfyriwr ar y tab hwn. Gallwch hefyd dynnu myfyriwr unigol yma. Fodd bynnag, dim ond myfyrwyr nad ydynt eto wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB y dylech chi eu dileu.