Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Customer search (Chwiliad Cwsmeriaid)
Mae ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) y porth yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr unigol a gweinyddu eu cyfrifon.
You can usGallwch ei ddefnyddio i weld manylion un myfyriwr ar y tro, yn hytrach na chynnal chwiliad swmp ar gyfer pob myfyriwr. Os ydych chi'n rhedeg chwiliad swmp mewn rhan arall o'r porth, gallwch chi hefyd agor y sgrin Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) os byddwch chi'n dewis cyfenw myfyriwr yn y canlyniadau chwiliad swmp.
Mae gan yr ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) 4 tab:
- gweld manylion y cais
- cynnal manylion y cwrs
- hanes cwrs a chais
- cynnal presenoldeb
Bydd chwilio am fyfyriwr yma nid yn unig yn adfer eu gwybodaeth ymgeisio ond hefyd yn llenwi'r holl dabiau hyn.