Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Canllaw defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu

Canllaw i’ch helpu i ddefnyddio Porth y Ganolfan Ddysgu.


Dechrau arni

Sut i gael mynediad at Borth y Ganolfan Ddysgu

Gallwch gael mynediad at Borth y Ganolfan Ddysgu trwy borwr rhyngrwyd. Mae'r porth yn gweithio ar Microsoft Edge, Firefox, Safari a Chrome. Nid yw'n gweithio ar Opera.

I fynd i'r porth, ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon.

Sut i fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu

  1. Ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon. Bydd hyn yn agor tudalen mewngofnodi'r porth.

  2. Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a dewiswch Sign in (Mewngofnodi). Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen Home (Hafan) y porth.

 


Mewngofnodi am y tro cyntaf

Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu, byddwn yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair a gynhyrchir gan system i chi. Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r porth am y tro cyntaf, bydd angen i chi newid y cyfrinair hwn.

Mae creu cyfrinair newydd sy’n hysbys i chi yn unig yn helpu cadw'ch cyfrif yn ddiogel.

Rhaid i’ch cyfrinair fod yn o leiaf 10 nod o hyd. Mae angen iddo gynnwys:

  • o leiaf un rhif
  • cymysgedd o lythrennau mawr a bach
  • nod arbennig

Sut i ailosod eich cyfrinair

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod eich hun cyn belled â'ch bod yn gwybod eich enw defnyddiwr.

  1. Ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon.

  2. Ar dudalen mewngofnodi Porth y Ganolfan Ddysgu, dewiswch Forgot your password? (Wedi anghofio eich cyfrinair?)



  3. Rhowch eich enw defnyddiwr a dewiswch Reset my password (Ailosod fy nghyfrinair). Yna byddwch yn cael e-bost yn dweud wrthych sut i ailosod eich cyfrinair.

Hafan

Tudalen hafan y porth

Tudalen hafan y porth yw'r dudalen gyntaf y byddwch chi'n ei gweld ar ôl mewngofnodi.

Ar ochr chwith y dudalen mae bar dewislen. Dewiswch Home (Hafan) o'r bar dewislen i weld y penawdau tudalen hafan canlynol:

  • Messages (Negeseuon)
  • Downloads (Lawrlwythiadau)
  • Reports (Adroddiadau)
  • Contacts and links (Cysylltiadau a dolenni)

Dewiswch bob pennawd i'w ehangu.

Mae gwybodaeth fanylach am elfennau'r dudalen hafan ym mhenodau dilynol y canllaw defnyddiwr hwn.

Dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau Cymeradwy Newydd)

Ar frig y dudalen Hafan, fe welwch y dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau Cymeradwy Newydd). Mae hyn yn eich galluogi i ddod o hyd yn gyflym i unrhyw Gytundebau Dysgu GDLlC AB sydd angen eu harwyddo.

Os gwelwch rif wrth ymyl y dangosydd, dewiswch y rhif. Bydd hyn yn mynd â chi at restr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu GDLlC AB.

 

Messages (Negeseuon)

Dewiswch y tab Messages (Negeseuon) ar dudalen hafan y porth i ehangu'r ardal negeseuon. Mae'r negeseuon a ddangosir yma yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar gyfer pob Canolfan Ddysgu.


Pan fyddwn yn postio neges newydd sydd angen eich sylw, bydd eicon 'newydd' yn ymddangos wrth ei ymyl.

 

I ddarllen neges, dewiswch ei theitl a bydd y neges yn dangos yn yr ardal ddisgrifio.

Unwaith y byddwch wedi darllen y neges, gallwch ei harchifo fel nad yw'n dod i fyny bob tro y byddwch chi'n mewngofnodi i'r porth. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio Archive (Archifo) ac yna dewiswch Save (Cadw).

Os ydych chi am ei ddarllen eto yn nes ymlaen, dewiswch Archived messages (Negeseuon wedi'u harchifo).

Downloads (Lawrlwythiadau)

Gallwch lawrlwytho rhai dogfennau sy'n ymwneud â GDLlC AB o Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys ffurflenni Cytundeb Dysgu GDLlC AB.

  1. Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Downloads (Lawrlwythiadau).

  2. Agorwch y gwymplen Select a category (Dewiswch gategori) a dewiswch gategori'r ddogfen rydych chi'n edrych amdani.

  3. Agorwch y gwymplen Select a title (Dewiswch deitl) a dewiswch y ddogfen sydd ei hangen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r ddogfen yn ymddangos o dan y cwymplenni.

  4. Dewiswch hyperddolen y ddogfen i'w lawrlwytho.

Reports (Adroddiadau)

Yn yr adran hon o Borth y Ganolfan Ddysgu, gallwch redeg adroddiadau ar gyfer eich Canolfan Ddysgu.

  1. Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).

  2. Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch gategori'r adroddiad.

  3. Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.

  4. Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.


Adroddiadau safon gwasanaeth

Gallwch ddefnyddio adroddiadau safon gwasanaeth i weld sut mae eich Canolfan Ddysgu yn perfformio yn ystod y flwyddyn.

Gallwch hefyd olrhain eich perfformiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwirio sut rydych chi'n dod ymlaen o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.

  1. Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).

  2. Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch Service Standard Reports (Adroddiadau Safon Gwasanaeth).

  3. Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.

  4. Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.

Contacts and links (Cysylltiadau a dolenni)

Mae'r rhan hon o dudalen hafan Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos gwybodaeth a dolenni defnyddiol.

Er enghraifft, gallwch weld:

  • gwybodaeth gyswllt Desg Gymorth ein Partneriaid

  • gwybodaeth gyswllt eich Rheolwr Cyfrif GDLlC AB

  • y cyfeiriad post i anfon ffurflenni cais GDLlC AB

Bar dewislen

Mae'r bar dewislen ar ochr chwith ffenestr Porth y Ganolfan Ddysgu. Bydd y dolenni yma yn mynd â chi i holl feysydd y porth:

  • Mae Home (Hafan) yn mynd â chi i dudalen hafan y porth

  • Mae Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) yn gadael i chi chwilio am fyfyrwyr unigol

  • Mae Worklists (Rhestrau Gwaith) yn gadael i chi chwilio am eich holl fyfyrwyr a dangos trosolwg o'r gweithredoedd gweinyddol sydd heb eu cyflawni ar eu cyfer

  • Mae Maintenance (Cynnal a Chadw) yn gadael i chi ddiweddaru grwpiau, gwyliau, defnyddwyr neu broffiliau

  • Mae User Profile (Proffil Defnyddiwr) yn gadael i chi weld eich proffil defnyddiwr, gan gynnwys eich enw defnyddiwr, rolau mynediad, enw'r Ganolfan Ddysgu a llawer mwy

  • Mae Settings (Gosodiadau) yn gadael i chi newid sut rydych chi'n edrych ar Borth y Ganolfan Ddysgu

  • Mae Logout (Allgofnodi) yn eich allgofnodi o'r porth

Mae gwybodaeth fanylach am yr opsiynau bar dewislen hyn ym mhenodau canlynol y canllaw hwn.

Os ydych chi am leihau'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden yn ei gornel chwith uchaf. I ehangu'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden eto.

Chwiliad Cwsmeriaid

Customer search (Chwiliad Cwsmeriaid)

Mae ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) y porth yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr unigol a gweinyddu eu cyfrifon.


You can usGallwch ei ddefnyddio i weld manylion un myfyriwr ar y tro, yn hytrach na chynnal chwiliad swmp ar gyfer pob myfyriwr. Os ydych chi'n rhedeg chwiliad swmp mewn rhan arall o'r porth, gallwch chi hefyd agor y sgrin Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) os byddwch chi'n dewis cyfenw myfyriwr yn y canlyniadau chwiliad swmp.

Mae gan yr ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) 4 tab:

  • gweld manylion y cais
  • cynnal manylion y cwrs
  • hanes cwrs a chais
  • cynnal presenoldeb

Bydd chwilio am fyfyriwr yma nid yn unig yn adfer eu gwybodaeth ymgeisio ond hefyd yn llenwi'r holl dabiau hyn.

Tab View Application Details (Gweld Manylion Cais)

Mae'r tab View Application Details (Gweld Manylion Cais) yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am GDLlC AB.

  1. I ddod o hyd i fyfyriwr, dewiswch y flwyddyn berthnasol yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).

  2. Nesaf, nodwch rif cyfeirnod cwsmer y myfyriwr neu ei enw cyntaf ac olaf a dyddiad geni.

  3. Dewiswch Search (Chwilio) a bydd y system yn dod â chofnod y myfyriwr perthnasol i fyny.

Bydd y tab hwn yn dangos statws cais y myfyriwr i chi, gan gynnwys a yw'n fyfyriwr treigl awtomatig. Mae'r dangosydd Auto rollover (Treigl awtomatig) yn weithredol pan fydd myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr yr ail neu'r drydedd flwyddyn.

Os oes angen, gallwch ychwanegu nodiadau at gyfrif myfyriwr ar y tab hwn. Gallwch hefyd dynnu myfyriwr unigol yma. Fodd bynnag, dim ond myfyrwyr nad ydynt eto wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB y dylech chi eu dileu.

Tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs)

Yn y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) rydych chi’n diweddaru Cytundeb Dysgu GDLlC AB y myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Rhaid i chi nodi gwybodaeth am y cwrs y mae'r myfyriwr arno. Rhaid i’r manylion gynnwys:

  • dyddiad cychwyn y cwrs
  • dyddiad gorffen y cwrs
  • hyd y cwrs
  • blwyddyn astudio
  • pwnc
  • cymhwyster
  • proffil astudio
  • oriau cyswllt
  • os yw'r myfyriwr yn symud ymlaen
  • os yw'r cwrs wedi'i ddynodi
  • os yw'r myfyriwr yn cael lwfans hyfforddi
  • amgylchiadau esgusodol
  • caniatâd i rannu 

Unwaith y byddwch wedi llenwi’r holl wybodaeth hon, gallwn adolygu cais y myfyriwr.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs) i ailasesu, atal, adfer a thynnu Cytundebau Dysgu GDLlC AB yn ôl. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r opsiynau hyn ym mhenodau dilynol y canllaw hwn.


Amgylchiadau esgusodol 

Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB.

Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau esgusodol) i gofnodi hyn ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs). 


Cofnodi dewis iaith y myfyriwr

Gall pob myfyriwr ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu dewis iaith ar y ffurflen gais. Bydd y Ffurflen Cytundeb Dysgu GDLlC AB hefyd yn gofyn yr un cwestiwn.

Pan fydd y myfyriwr yn cadarnhau ei ddewis iaith, bydd angen i chi gofnodi hyn ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs), ynghyd â'r wybodaeth arall yn ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB.

Dynodiad cwrs

Mae Canolfannau Dysgu yn gyfrifol am gymeradwyo neu wrthod ceisiadau GDLlC AB yn seiliedig ar lefel y cwrs y mae’r myfyrwyr arno.

Dylech wrthod unrhyw geisiadau gan fyfyrwyr ar gyrsiau lefel 4 neu uwch.

Dylech hefyd wrthod unrhyw gais nad yw'n dangos dilyniant o flwyddyn flaenorol.  Ni fydd myfyrwyr yn gymwys ar gyfer GDLlC AB os ydynt wedi derbyn cymorth GDLlC AB yn flaenorol i fynychu cwrs ar yr un lefel neu lefel uwch. 

I wrthod cais, ewch i'r tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs), dod o hyd i'r botwm radio Course Designated (Cwrs Dynodedig) a dewis No (Na).

Nid yw'r rhestr o gymwysterau ar y Porth Canolfannau Dysgu bellach yn cynnwys 'other' ('arall'). Yn lle hynny, rhaid i chi fapio eich rhaglenni cwrs trwy'r fframwaith cymwysterau i gael mynediad i'r cyrsiau ar y lefel gywir.

Rydym hefyd wedi lleihau'r rhestr o opsiynau cymhwyster penodol. Mae hyn er mwyn sicrhau mai dim ond lefelau sydd â chyllid ynghlwm wrthynt y gallwch eu dewis.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i fapio cymwysterau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dim ond cyrsiau addysg bellach sy'n ddilys ar gyfer cymorth GDLlC AB. Rhaid i gyrsiau arwain at gymwysterau cydnabyddedig hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3. Nid yw cyrsiau addysg uwch ar lefel 4 ac uwch yn gymwys.


Mathau o gyrsiau cymwys

Lefel Mynediad:

  • paratoi ar gyfer cymwysterau lefel 1
  • Ymgysylltiad Hyfforddeiaeth

Lefel sylfaen 1:

  • BTEC lefel 1
  • NVQ lefel 1
  • Hyfforddeiaeth lefel 1
  • City & Guilds lefel 1
  • VRQ lefel 1

Lefel ganolradd 2:

  • BTEC lefel 2
  • NVQ lefel 2
  • TGAU
  • City & Guilds lefel 2
  • VRQ lefel 2

Lefel uwch 3:

  • Safon Uwch
  • Mynediad at Addysg Uwch
  • BTEC lefel 3
  • NVQ lefel 3
  • VRQ lefel 2

Ailasesu Cytundeb Dysgu GDLlC AB

Gallwch ddefnyddio’r opsiwn ailasesu i ddiweddaru cofnod myfyriwr os bydd yn newid ei fanylion academaidd. Er enghraifft, gallai hyn fod yn newid cwrs neu oriau cyswllt.

Gall newid manylion academaidd gael effaith ddifrifol ar gymhwysedd a hawl myfyriwr i GDLlC AB. Er enghraifft, efallai na fydd ganddynt hawl mwyach i dderbyn cymorth GDLlC AB.

Rhaid i chi ond ailasesu myfyriwr os ydych yn sicr bod y newidiadau i'w manylion academaidd yn barhaol. Rhaid i'r newidiadau hefyd gael eu hawdurdodi'n llawn gan yr aelodau staff perthnasol yn eich ysgol neu goleg.

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu a dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid).

  2. Cynhaliwch chwiliad i ddod â chofnod y myfyriwr i fyny.

  3. Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).

  4. Dewiswch Reassess (Ailasesu). Mae hyn yn agor ffenestr newydd.

  5. Rhowch set newydd o fanylion cwrs ar gyfer y myfyriwr.

  6. Unwaith y byddwch wedi nodi'r holl fanylion, dewiswch Save (Cadw).

Atal Cytundeb Dysgu GDLlC AB

Dylech atal Cytundeb Dysgu GDLlC AB os yw'r myfyriwr i ffwrdd o'ch Canolfan Ddysgu am gyfnod estynedig. 

Os ydych chi'n gwybod bod yr absenoldeb yn barhaol, rhaid i chi ei dynnu'n ôl. Fodd bynnag, dylech hefyd ddefnyddio'r opsiwn atal dros dro pan nad ydych chi'n siŵr am y rhesymau neu a yw'r absenoldeb yn barhaol.

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu a dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid).

  2. Cynhaliwch chwiliad i ddod â chofnod y myfyriwr i fyny.

  3. Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).

  4. Dewiswch Suspend (Atal) a nodwch y dyddiad dod i rym.

  5. Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.

Adfer Cytundeb Dysgu GDLlC AB

Os bydd myfyriwr yn dychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o absenoldeb a’ch bod yn fodlon ei fod wedi dychwelyd yn barhaol, gallwch adfer ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB. Bydd hyn yn caniatáu iddynt dderbyn GDLlC AB eto.

Dim ond cytundebau sydd wedi'u hatal y gallwch eu hadfer.

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu a dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid).

  2. Cynhaliwch chwiliad i ddod â chofnod y myfyriwr i fyny.

  3. Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).

  4. Dewiswch Reactivate (Adfer) a nodwch y dyddiad dod i rym.

  5. Dewiswch Save (Cadw).

Tynnu Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn ôl

Os bydd myfyriwr yn penderfynu tynnu'n ôl o'ch Canolfan Ddysgu yn barhaol, rhaid i chi ddiweddaru Porth y Ganolfan Ddysgu i ddangos hyn.

Dylech ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo i Ganolfan Ddysgu arall. Yn yr achos hwn, rhaid i'r myfyriwr hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru i gael y trosglwyddiad wedi'i brosesu ar ei gyfer. 

Dylech hefyd ddefnyddio'r opsiwn tynnu'n ôl os bydd myfyriwr yn marw. Yn yr achos hwn, dylech bob amser gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid fel y gallwn atal unrhyw ohebiaeth bellach i'r myfyriwr.

  1. Cynhaliwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).

  2. Gwiriwch a yw cyfrif y myfyriwr wedi'i atal. Os na, dewiswch Suspend (Atal), yna dewiswch Save (Cadw).

  3. Dewiswch Withdraw (Tynnu’n ôl) a nodwch y dyddiad dod i rym. Byddwn yn defnyddio'r dyddiad hwn i gyfrifo union swm y cymorth GDLlC AB y mae gan y myfyriwr hawl iddo.

  4. Rhowch ragor o wybodaeth yn y maes Notes (Nodiadau) os oes angen.

  5. Dewiswch Save (Cadw).

Unwaith y bydd myfyriwr wedi'i dynnu'n ôl, gallwch barhau i weld ei fanylion ar Borth y Ganolfan Ddysgu os oes angen.

Tab Course and Application History (Hanes Cwrs a Chais)

Dyma lle gallwch wirio hanes cwrs a chais y myfyriwr.


Dewiswch yr asesiadau a restrir o dan Course History (Hanes y Cwrs) i weld gwybodaeth fanylach.

Tab Maintain Attendance (Cynnal Presenoldeb)

Gallwch ddefnyddio’r tab Maintain Attendance (Cynnal Presenoldeb) i gadarnhau:

  • presenoldeb y myfyriwr bob tymor
  • os yw'r myfyriwr yn symud ymlaen ai peidio

Dewiswch y botymau radio perthnasol, yna dewiswch Save (Cadw).


Cadarnhad SLC

Efallai y byddwch yn gweld SLC yn achlysurol yn y golofn Confirmed by (Cadarnhawyd gan) yn y tab Maintain Attendance (Cynnal Presenoldeb). Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwneud y cadarnhad ac ni allwch ei ddiystyru ar y porth.

Os oes angen i chi ei newid, bydd angen i chi gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid a all wneud hyn ar eich rhan.

Blwyddyn academaidd ansafonol

Os oes gennych fyfyriwr sydd ar flwyddyn academaidd ansafonol, fel cwrs sy'n cychwyn ym mis Ionawr, dylech ddilyn y broses hon.

 

  1. Mae'r myfyriwr yn gwneud cais a bydd yn derbyn ei Lythyr Dyfarniad Dros Dro.
  2. Dylech gadarnhau manylion y cwrs ar Borth y Ganolfan Ddysgu fel arfer a chysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid.
  3. Bydd y myfyriwr yn derbyn Llythyr Dyfarniad Terfynol yn cadarnhau manylion ei gwrs, Canolfan Ddysgu a swm hawl.
  4. Dylech gadarnhau presenoldeb y myfyriwr ar gyfer tymor 1 a 2 yn Ionawr a Mai.
  5. Yna dylech gysylltu â’n Desg Gymorth Partneriaid i ddiweddaru presenoldeb y myfyriwr ar gyfer tymor 3 ym mis Medi.

Rhestrau gwaith

Worklists (Rhestrau gwaith)

Mae'r rhan hon o'r porth yn gadael i chi adolygu a diweddaru'r holl geisiadau, ffurflenni Cytundeb Dysgu GDLlC AB a phresenoldeb mewn un lle. Gallwch ddefnyddio 2 rhestr waith i wneud hyn: 

  • Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
  • Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhain ym mhenodau nesaf y canllaw hwn.

Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)

I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a dewiswch Search (Chwilio).

Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:

  • cyfeirnod cwsmer
  • enw cyntaf ac olaf
  • dyddiad geni
  • grwpiau
  • statws cais
  • dyddiau ers cymeradwyo

Dewiswch gyfenw myfyriwr i fynd at ei gofnod lle gallwch chi:

  • ddiweddaru ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB
  • dynnu'n ôl, atal neu ailasesu'r myfyriwr
  • gadarnhau presenoldeb y myfyriwr

Gallwch hefyd dynnu myfyrwyr lluosog yn syth o'r Rhestr Waith Ceisiadau. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer y myfyrwyr perthnasol, yna dewiswch Save (Cadw).


Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo)

Gallwch ddefnyddio'r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i gyfrifo pryd y bydd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i lofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn dechrau.

Mae gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i lofnodi eu cytundeb. Rydym yn dechrau cyfrif hyn o'r diwrnod y caiff eu cais ei gymeradwyo neu'r diwrnod y bydd blwyddyn academaidd GDLlC AB yn dechrau, p'un bynnag sydd hwyraf. Byddwn yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau blwyddyn academaidd GDLlC AB, fel arfer ym mis Awst, cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Rydym hefyd wedi ychwanegu’r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i’r porth i’ch helpu i gyrraedd y safon gwasanaeth 10 diwrnod.

Mae nifer y dyddiau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolen. Bydd dewis hwn yn mynd â chi’n syth at Gytundeb Dysgu GDLlC AB y myfyriwr.


Auto Rollover (Treiglo Awtomatig)

Mae'r dangosydd Auto Rollover (Treigl Awtomatig) yn dangos pan fydd myfyriwr sy’n dychwelyd cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd.

Byddwn yn trosglwyddo unrhyw fyfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd yn awtomatig, ond gallwch ddileu ac adfer ceisiadau yn ôl yr angen.

Dileu ac adfer myfyrwyr

Gallwch ddefnyddio'r tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i:

  • ddileu myfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
  • adfer myfyrwyr sydd wedi dychwelyd

Dileu myfyrwyr

  1. Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a rhedwch chwiliad i ganfod y myfyrwyr rydych chi am eu dileu.

  2. Yn y canlyniadau chwilio, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae angen i chi eu tynnu. Bydd hyn yn actifadu'r botwm Dileu.



  3. Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn ichi gadarnhau'r rhai i’w dileu.



  4. Dewiswch Confirm (Cadarnhau) i ddileu'r myfyrwyr a ddewiswyd neu Cancel (Canslo) i ddychwelyd i'r wedd flaenorol.

Unwaith y byddwch wedi dileu myfyriwr, ni fydd angen i chi gadarnhau ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB na’i bresenoldeb.

Ni ddylech ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb Dysgu GDLlC AB gweithredol.

Os yw myfyriwr wedi gwneud cais am GDLlC AB ond erioed wedi mynychu ei gwrs, gallwch ei dynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Dylech bob amser gadw rhestr waith eich ceisiadau'n gyfredol.


Adfer myfyrwyr

  1. Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).

  2. Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).

  3. Dewiswch Search (Chwilio) i weld rhestr o geisiadau sydd wedi'u dileu.

  4. Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol yn y canlyniadau chwilio i agor manylion ei gais.

  5. Dewiswch Restore (Adfer) a bydd y system yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich rhestr arferol o geisiadau.

 

Er enghraifft, gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os penderfynodd myfyriwr yn wreiddiol adael eich Canolfan Ddysgu i chwilio am waith ond yna penderfynodd ddychwelyd.

Unwaith y byddwch wedi adfer cais y myfyriwr, gallwch barhau i gadarnhau ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB a’i bresenoldeb yn ôl yr angen.

Os ceisiwch adael y sgrin hon heb gadw eich gwaith yn gyntaf, bydd y system yn dangos neges rhybudd i chi.

Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)

Gallwch ddefnyddio'r Rhestr Waith Presenoldeb i gadarnhau presenoldeb myfyrwyr ac i ddiweddaru unrhyw bresenoldeb heb eu cadarnhau.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r rhestr waith hon i weld presenoldeb llawn a hanes cadarnhau dilyniant ar gyfer eich myfyrwyr. Bydd hyn yn rhoi trosolwg gwell i chi o pryd y gallant ddisgwyl cael eu talu.

Rhaid i chi ddarparu manylion presenoldeb a dilyniant myfyrwyr ar ddechrau pob tymor. Bydd hyn yn dweud wrthym a ydynt yn gymwys i dderbyn taliadau GDLlC AB. Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb myfyriwr, bydd hyn yn rhyddhau taliad i'w gyfrif.

Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol) ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs) i gofnodi hyn pan fyddwch yn rhoi manylion eu cytundeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Bydd hyn yn eich atgoffa i ystyried sefyllfa’r myfyriwr pan fyddwch yn marcio presenoldeb.

Y meysydd hidlo chwilio unigryw ar gyfer y Rhestr Waith Presenoldeb yw:

  • tymor
  • statws presenoldeb
  • statws dilyniant


Cadarnhau presenoldeb

I gadarnhau presenoldeb, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer pob myfyriwr ar eich rhestr, yna dewiswch Save (Cadw).

Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni meini prawf presenoldeb eich Canolfan Ddysgu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig. Bydd dewis yr opsiwn hwn yn rhyddhau taliad GDLlC AB i gyfrif y myfyriwr. Mae gan fyfyrwyr hawl i GDLlC tra byddant yn dysgu a all gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.

Mae Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) yn golygu nad yw'r myfyriwr wedi bodloni'r meini prawf presenoldeb a osodwyd gan eich Canolfan Ddysgu. Os dewiswch yr opsiwn hwn, ni fydd unrhyw daliad GDLlC AB yn cael ei ryddhau i gyfrif y myfyriwr.


Cadarnhau dilyniant

I gadarnhau dilyniant, dewiswch y botwm radio Progressing (Symud Ymlaen) neu Not Progressing (Ddim yn Symud Ymlaen) ar gyfer pob myfyriwr ar eich rhestr, yna dewiswch Save (Cadw).

Mae Progressing (Symud Ymlaen) yn golygu bod y myfyriwr yn symud ymlaen ar ei gwrs.

Mae Not Progressing (Ddim yn Symud Ymlaen) yn golygu nad yw'r myfyriwr wedi symud ymlaen ar gyfer y tymor hwn, gan fod ei gwrs ar yr un lefel neu lefel is ag y bu'n astudio o'r blaen.

Cynnal a chadw

Maintenance (Cynnal a chadw)

Gallwch ddefnyddio ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu i weld a diweddaru gwybodaeth am y canlynol yn eich Canolfan Ddysgu:

  • defnyddwyr
  • proffiliau
  • grwpiau

Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhain ym mhenodau dilynol y canllaw hwn.

Tab Users (Defnyddwyr)

Gallwch ddefnyddio'r tab Users (Defnyddwyr) yn ardal Cynnal a Chadw y porth i:

  • greu cyfrifon defnyddwyr newydd
  • weld cyfrifon defnyddwyr presennol
  • ddirwyn hen gyfrifon defnyddwyr i ben


Sut i greu cyfrif defnyddiwr newydd

  1. Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).

  2. Dewiswch Create new (Creu newydd). 

  3. Rhowch fanylion y defnyddiwr newydd: First name (Enw cyntaf), Surname (Cyfenw), Email (E-bost) a Telephone number (Rhif ffôn).

  4. Dewiswch y blwch ticio priodol i ddyrannu rôl mynediad defnyddiwr. Administrator (Gweinyddwr) yw hwn fel arfer.

  5. Dewiswch Continue (Parhau). Bydd hyn yn agor sgrin gadarnhau lle gallwch adolygu'r manylion.

  6. Os yw'r holl fanylion yn gywir, dewiswch Submit (Cyflwyno) i orffen creu'r defnyddiwr.

Bydd y system wedyn yn e-bostio'r enw defnyddiwr a chyfrinair dros dro i’r defnyddiwr newydd. Bydd y defnyddiwr yn ymddangos ar y rhestr o ddefnyddwyr yn eich Canolfan Ddysgu.

Gallwch hefyd ddewis copïo manylion y defnyddiwr newydd i'r tab Profiles (Proffiliau). Bydd hyn yn ychwanegu'r defnyddiwr newydd at ein rhestr bostio fel y gallant ddechrau derbyn e-byst gan eich Rheolwr Cyfrif GDLlC AB.


Sut i ddirwyn hen gyfrif defnyddiwr i ben

Dylech ddirwyn unrhyw hen gyfrifon i ben unwaith nad oes angen mynediad i'r porth ar y defnyddiwr mwyach.

  1. Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).

  2. Dewch o hyd i'r cyfrif sydd ei angen arnoch i ddod i ben a dewiswch Edit (Golygu).

  3. Dewiswch Expire account (Dirwyn i ben cyfrif).

Tab Profiles (Proffiliau)

Dylai fod gan eich Canolfan Ddysgu o leiaf 2 ddefnyddiwr wedi'u rhestru ar y tab Profiles (Proffiliau). Dylai'r rhain fod yn brif ddefnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu.

 

Os oes angen, gallwch ychwanegu mwy o ddefnyddwyr. I wneud hyn, dewiswch Additional Contact (Cyswllt Ychwanegol) ac Add Contact (Ychwanegu Cyswllt).

Os oes angen i chi wirio neu newid manylion defnyddiwr presennol, dewiswch Edit (Golygu).


Gwnewch yn siŵr bod y proffiliau yma yn cynnwys y wybodaeth gyswllt gywir. Dim ond defnyddwyr sydd â'u manylion cyswllt ar y tab hwn fydd yn derbyn ein negeseuon e-bost am y cynllun GDLlC AB.

Gallwch hefyd ddiweddaru cyfeiriad a rhif ffôn eich Canolfan Ddysgu ar y tab hwn. Mae'n bwysig eich bod yn cadw'r rhain yn gyfredol fel y gallwn ddosbarthu deunyddiau printiedig i chi, fel pecynnau cais a deunyddiau cyn-lansio.

Tab Grwpiau (Groups)

Gallwch ddefnyddio'r tab Groups (Grwpiau) i greu, diwygio neu ddileu grwpiau. Gall sefydlu grwpiau fod yn ddefnyddiol os oes gan eich Canolfan Ddysgu fwy nag un campws, er enghraifft.

Bydd angen mynediad WGLG FE Administrator (Gweinyddwr GDLlC AB) arnoch i ddefnyddio'r tab hwn.

I greu grŵp newydd, rhowch enw a disgrifiad grŵp, yna dewiswch Add (Ychwanegu). Unwaith y byddwch wedi sefydlu grŵp, gallwch aseinio myfyrwyr iddo.

Os oes gennych unrhyw grwpiau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, gallwch eu harchifo. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Archive (Archifo), yna dewiswch Save (Cadw).

Os ydych chi am ddileu grŵp yn gyfan gwbl, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Delete (Dileu), yna dewiswch Save (Cadw).

Proffil defnyddiwr a gosodiadau

User profile (Proffil defnyddiwr)

Mae adran User Profile (Proffil Defnyddiwr) Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos eich manylion defnyddiwr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • eich enw defnyddiwr
  • y cynllun yr ydych yn ei weinyddu
  • eich cyfenw
  • eich enwau cyntaf
  • eich rôl mynediad system

Settings (Gosodiadau)

Gallwch ddefnyddio’r adran Settings (Gosodiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i newid lliw’r ardaloedd porth canlynol:

  • pennawd
  • acordion
  • dewislen
  • cefndir dewislen

Gallwch hefyd ddewis a ydych am arddangos delwedd yng nghefndir y ddewislen, lleihau'r bar dewislen a newid maint y ffont.

Mae yna hefyd botwm i adfer gosodiadau diofyn.